Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Mawrth 2022
Amser: 08.45 - 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12649
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Ruth Richards, Dyfodol i'r Iaith Mabli Jones, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Lowri Williams, Comisiynydd y Gymraeg Professor Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth Jonathan Morrison, Home Owners of Wales Group Keith Henson, Barcud Karen Holt, Bro Machno Housing Partnership Ffrancon Williams, Adra Shan Lloyd Williams, Grŵp Cynefin Douglas Haig, National Residential Landlords Association (NRLA) |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 5 - y Gymraeg
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Ruth Richards, Prif Weithredwr, Dyfodol i’r Iaith
Mabli Siriol Jones, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith
Lowri Williams, Uwch Swyddog Polisi, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Yr Athro Rhys Jones, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth
3 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 6 - perchenogion ail gartrefi
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Jonathan Morrison, yn cynrychioli grŵp Home Owners of Wales
4 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 7 - landlordiaid a grwpiau cymunedol
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Keith Henson, Hwylusydd Tai Gwledig, Barcud
Ffrancon Williams, Prif Weithredwr, Adra
Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr, Grŵp Cynefin
Karen Holt, Partneriaeth Tai Bro Machno
Douglas Haig, Cyfarwyddwr Anweithredol, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
5.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch Offerynnau Statudol a wnaed o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
5.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch Offerynnau Statudol a wnaed o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
5.3 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch LCM y Bil Etholiadau
5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch LCM y Bil Etholiadau.
5.4 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
5.5 Llythyr gan Cladiators Cymru ynghylch diogelwch tân
5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cladiators Cymru ynghylch diogelwch tân a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y materion a godwyd.
5.6 Llythyr gan Teithio Ymlaen mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
5.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Teithio Ymlaen mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a chytunodd i wneud gwaith ar y mater yn y dyfodol.
5.7 Llythyr gan Brif Weithredwr Senedd Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch defnydd o'r acronym B.A.M.E. gan Gomisiwn y Senedd
5.7.a. Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Brif Weithredwr Senedd Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch defnydd o'r acronym B.A.M.E. gan Gomisiwn y Senedd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
8 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau.
8.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau.
9 Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau
9.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) a chytunodd i ddiwygio’r adroddiad yn seiliedig ar ei drafodaethau o dan eitem 8.